Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 9 Mai 2018
Amser:
09.22 -
12.44
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4848
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Siân Gwenllian AC Bethan Sayed AC Rhianon Passmore AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Allison Thomas, Ford Vicki Spencer-Francis, Cowshed Alex Currie, Go Compare Marcella Maxwell, Llywodraeth Cymru Dr Rachel Garside-Jones, Skills Policy & Youth Engagement Division (Welsh Government) |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Jack Sargeant AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Allison Thomas, Swyddog Cysylltiadau Gweithwyr, Peiriannau Injan Pen-y-bont ar Ogwr, Ford
· Vicki Spencer-Francis, Rheolwr Gyfarwyddwr a Sylfaenydd, Cowshed
· Alex Currie, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Go Compare
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull o gynnal yr ymchwiliad, a chytunwyd ar y cylch gorchwyl.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
· Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
· Marcella Maxwell, Pennaeth Gweithredu'r Cynllun Gweithredu Economaidd, Llywodraeth Cymru
· Rachel Garside-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyflogadwyedd a Sgiliau, Llywodraeth Cymru
5.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i ddarparu:
· canran y patrymau gweithio hyblyg, a nifer y dynion sy'n manteisio ar absenoldeb a rennir gan rieni, yn Llywodraeth Cymru;
· nodyn ynghylch unrhyw hyfforddiant ar recriwtio diduedd y gellir ei gynnig i fusnesau bach fel rhan o'r Contract Economaidd.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 5.